Mae Cronfa Bensiwn Powys yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS)

Os fyddwch chi’n ymuno â’r gronfa, byddwch yn dyfod yn aelod a bydd pensiwn yn cael ei dalu i chi ar ôl i chi ymddeol.

Ymhlith yr aelodau mae pobl sy’n gweithio i Gyngor Sir Powys (ac eithrio Athrawon), ac amrywiaeth o sefydliadau eraill fel colegau lleol neu gynghorau tref a chymuned sydd wedi gwneud cais i fod yn rhan o’r gronfa. Mae mwy nag 19 o sefydliadau o’r fath ym Mhowys yn galluogi eu gweithwyr i ymuno â’r gronfa.

Mae’r Gronfa’n gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus cynllun statudol. Ystyr hyn yw ei fod yn ddiogel iawn achos mae’r swm y mae aelodau yn cael eu talu ar ôl ymddeol wedi ei ddiffinio a’i warantu yn ôl y gyfraith.

Mae gan athrawon eu cynllun pensiwn eu hunain ac nid ydynt yn rhan o Gronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys. Cliciwch ar y ddolen ganlynol am wybodaeth am drefniadau pensiwn i Athrawon: www.teacherspensions.co.uk

Pwy sy’n rhedeg y gronfa bensiwn?

Caiff Cronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys ei redeg gan Gyngor Sir Powys.

Ystyr hyn yw mai Cyngor Sir Powys yw’r “awdurdod gweinyddu” fel y’i diffiniwyd yn Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Mae’r Cyngor yn rheoli’r Gronfa drwy Bwyllgor Pensiynau a Buddsoddi sy’n gwneud penderfyniadau a chymryd cyfrifoldeb dros reoli a buddsoddi’r Gronfa.

Mae’n ofynnol bod awdurdodau gweinyddol yn ymddwyn er budd yr holl weithwyr, aelodau a’u dibynyddion oddi fewn i’r Gronfa. Mae’r rôl o weinyddu awdurdod yn debyg iawn i rôl ymddiriedolwr.

Mae Adran Bensiynau Cyngor Sir Powys yn gofalu ar ôl gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o ddydd i ddydd.

Rôl y Bwrdd Pensiynau yw cynorthwyo â llywodraethu’r cynllun yn dda drwy fonitro perfformiad Cronfa ac ymlyniad at ddyletswyddau statudol. Nid yw’r Bwrdd Pensiynau yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau. Cynorthwyo i gydymffurfio â rheolau’r cynllun yw ei rôl.

Mae Cronfa Bensiwn Powys yn un o’r cronfeydd pensiwn cyfranogol oddi fewn i Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Mae’r PPC yn gydweithrediad o wyth o gronfeydd Llywodraeth Leol (Awdurdodau Cyfansoddol) sy’n cynnwys Cymru gyfan, ac sy’n un o wyth o gronfeydd cenedlaethol Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol