Ar bwy mae hyn yn effeithio?

Yn anad dim, mae’r newidiadau wedi eu hanelu at aelodau cynlluniau pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig. Weithiau, gelwir cynlluniau pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig yn Gynlluniau Prynu Arian.

Mae aelodau o gynlluniau Cyfraniadau Diffiniedig yn cronni pot o arian sy’n cynnwys eu cyfraniadau nhw eu hunain ac unrhyw gyfraniadau y mae eu cyflogwr wedi eu talu i mewn. Yna, caiff yr arian hwn ei fuddsoddi ac ychwanegir yr enillion ar y buddsoddiad hwnnw at y pot pensiwn a chaiff y cyfan ei ail-fuddsoddi.

Yn draddodiadol, wrth i rywun sydd â phensiwn Cyfraniadau Diffiniedig ymddeol, gofynnir iddynt ddefnyddio’r arian y maent wedi ei gronni i brynu blwydd-dal, yn gyffredinol. Mae’r blwydd-dal yn incwm am oes a delir gan gwmni yswiriant, a po fwyaf yw maint pot pensiwn rhywun adeg ymddeol y mwyaf y bydd y blwydd-dal y gall ei brynu.

Pwysig

Nid Cynllun Cyfraniadau Diffiniedig yw’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), ac felly nid yw llawer o’r newidiadau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2015 yn uniongyrchol berthnasol i aelodau’r CPLlL.

Rhyddid a Dewis

Y newid mwyaf er mis Ebrill 2015 yw na fydd yn rhaid i aelodau rhai cynlluniau pensiwn Cyfraniad Diffiniedig brynu blwydd-dal mwyach. Yn hytrach, byddant yn cael yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei alw’n “rhyddid a dewis" o ran sut y maent yn defnyddio’u potiau pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig. Nawr, bydd bobl sydd â’r mathau hyn o gynlluniau pensiwn yn gallu defnyddio’u potiau pensiwn yn unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

1) I gymryd blwydd-dal yn yr un ffordd ag o’r blaen
2) I gymryd eu harian fel arian parod, naill ai i gyd ar yr un pryd neu fel cyfres o ran-daliadau ar wahân
3) I gymryd cyfuniad o 1 a 2 uchod h.y. i brynu blwydd-dal gyda rhywfaint o’u pot a chymryd y gweddill fel arian parod pan fyddan nhw’n dymuno ei gael.

Pan fydd aelodau’n dewis cymryd eu potiau pensiwn fel arian parod, telir y 25% cyntaf o’r arian hwnnw yn ddi-dreth ac yna trethir y gweddill yn yr un ffordd ag unrhyw incwm arall, er enghraifft cyflog.

Beth am y CPLlL?

Cofiwch nad Cynllun Cyfraniadau Diffiniedig yw’r CPLlL, ac felly ni fydd aelodau yn gallu cael y cyfan o’u buddion fel arian parod, yn yr un ffordd ag aelodau o Gynlluniau Cyfraniadau Diffiniedig.

Mae’r CPLlL yn gynllun pensiwn Buddion Diffiniedig. Yn y math hwn o gynllun, nid yw’r buddion a gewch adeg ymddeol yn dibynnu ar berfformiad eich buddsoddiadau nac ar faint o flwydd-dal y bydd cwmni yswiriant yn fodlon ei werthu i chi. Yn hytrach, mae eich pensiwn CPLlL adeg ymddeol yn seiliedig ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn rhan o’r cynllun a faint yr ydych wedi ei ennill. Mae hyn yn golygu bod eich buddion yn ddiogel ac yn gallu cael eu rhagfynegi.

Mae gan y CPLlL nodwedd hefyd sy’n galluogi aelodau sy’n ymddeol ac sydd eisiau mynediad at arian ychwanegol, i gyfnewid rhywfaint o’u pensiwn am gyfandaliad mwy o faint. Wrth i chi ymddeol, fel arfer gallwch gymryd cyfandaliad o hyd at 25% o gyfanswm gwerth holl fuddion eich CPLlL ac mae’n cael ei dalu’n ddi-dreth.

Trosglwyddo allan o’r CPLlL

O dan y rheolau Rhyddid a Dewis newydd, mae aelodau o’r CPLlL yn cael gadael y cynllun a symud y buddion y maen nhw wedi eu cronni at bensiwn Cyfraniadau Diffiniedig a fyddai’n caniatáu iddynt ddefnyddio’r elfennau hyblyg ychwanegol.

Proses hynod o gymhleth yw trosglwyddo buddion pensiwn rhwng cynlluniau, ac os ydych yn ystyried trosglwyddo allan o’r CPLlL mae’n bwysig eich bod yn ystyried eich penderfyniad yn ofalus iawn.

O dan y rheolau Rhyddid a Dewis newydd, os ydych yn ystyried trosglwyddo buddion eich CPLlL at bensiwn Cyfraniadau Diffiniedig, ac mae gwerth y trosglwyddiad dros £30,000, rhaid i chi gael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol cymwys sy’n gymwys i’ch cynghori am drosglwyddo pensiynau, cyn y gallwch chi fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad. Byddwn yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig eich bod wedi cael y cyngor hwn cyn y byddwn yn talu unrhyw werth trosglwyddo allan o’ch buddion.

Yn ddiweddar, mae’r Llywodraeth wedi lansio gwasanaeth gwybodaeth o’r enw Pension Wise ar www.pensionwise.gov.uk. Mae hwn yn wasanaeth diduedd, rhad ac am ddim, sy’ rhoi arweiniad i ddefnyddwyr o ran eu hopsiynau mewn perthynas â’u pensiynau. Mae’n eich helpu i ddeall diwygiadau’r Llywodraeth i gynlluniau pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig.

Chi fydd yn gyfrifol am drefnu unrhyw gyngor a gewch ac am dalu amdano. Gallwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol yn eich ardal chi, ar www.unbiased.co.uk.

Gofalwch rhag cael eich twyllo

Yn sgil cyflwyno’r rhyddid newydd hwn, gallai fod yna gyfleoedd i chi gael eich “twyllo” allan o’ch cynilion pensiwn. Mae yna sawl ffordd bosibl o wneud hyn, er enghraifft:

  • Galwadau diwahoddiad
  • Negeseuon e-bost
  • Galwadau ar stepen eich drws
  • Addewidion o gyfleoedd buddsoddi optimistaidd ac afrealistig
  • Gofyn i chi drosglwyddo’ch arian yn gyflym, a hyd yn oed anfon dogfennau atoch trwy wasanaeth rhedegydd (courier).

Mae’n bwysig i chi fod ar eich gwyliadwriaeth, i sicrhau nad ydych yn cael eich twyllo. Am ragor o wybodaeth am osgoi sgamiau yn ymwneud â phensiynau, ewch i’n hadran cymorth.

Os digwydd i chi gael galwadau, negeseuon e-bost neu ymweliadau diwahoddiad, fe’ch cynghorir yn gryf i fod yn ofalus. Os ydych yn credu y gallai rhywun heblaw eich cynghorydd fod wedi cysylltu â chi, neu os ydych yn credu efallai eich bod wedi cael eich twyllo, cysylltwch ag Action Fraud ar 0300 123 2040. Neu gallwch fynd i’w gwefan, www.actionfraud.police.uk.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol