Diogelu Data

Ni fyddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol nac yn ei phrosesu, wrth i chi ymweld â’r wefan hon. 

Os ydych yn aelod o’r gronfa bensiwn ac eisiau gwybod pa wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal a sut yr ydym yn ei defnyddio, yna darllenwch Bolisi Preifatrwydd Llawn Cronfa Bensiwn Powys. Mae ein manylion cyswllt yma os ydych yn dymuno cysylltu â ni.

Cyfeiriadau IP a chwcis

Efallai y byddwn y casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur. Efallai y byddwn yn cael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd trwy ddefnyddio ffeil cwci sy’n cael ei storio ar gof mewnol eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo i gof mewnol eich cyfrifiadur.

Mae cwcis yn ffeiliau testun bach yng nghyfeiriaduron porwyr. Defnyddir cwcis i wella profiad defnyddiwr trwy sicrhau bod gwefan yn gweithio’n effeithlon, i gyflawni rhai swyddogaethau penodol ac i roi gwybodaeth i berchnogion y wefan.  Mae rhai o’r cwcis a ddefnyddir yn hanfodol er mwyn i’r wefan weithio. Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, system weithredu a math o borwr pan fydd ar gael, ac er mwyn gweinyddu’r system. Mae’r rhain yn ddata ystadegol am weithgarwch a phatrymau pori ein defnyddwyr ac nid ydynt yn gallu adnabod unigolion.

Ceir gwybodaeth bellach am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon yn y tabls isod:

Cwci Diben Actifadu Hyd
Google analytics
Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble mae ymwelwyr wedi dod i’r safle, a’r tudalennau y maen nhw wedi ymweld â nhw. Cewch ragor o wybodaeth yn Privacy at Google.
_utma Mae’r cwci hwn yn cadw cofnod o’r nifer o weithiau y mae ymwelwyr wedi ymweld â gwefan, dyddiad eu hymweliad cyntaf a dyddiad eu hymweliad olaf. Wrth ymweld Nid yw’n dod i ben
_utmb

Mae’r cwci hwn yn cofnodi’r union amser y mae ymwelydd yn mynd i mewn i’r wefan.

Wrth ymweld Sesiwn bori
_utmc

Mae’r cwci hwn yn cofnodi’r union amser y mae ymwelydd yn gadael y wefan.

Wrth ymweld Sesiwn bori a 30 munud
_utmz

Mae’r cwci hwn yn cofnodi manylion sut y cyrhaeddodd ymwelydd y wefan. Gallai fod ar ffurf dolen ar wefan arall, neu’r peiriant chwilio a’r geiriau a ddefnyddiwyd gennych wrth chwilio.

Wrth ymweld Nid yw’n dod i ben
Cychwynnwyd gennych chi
Mae’r cwcis canlynol yn hanfodol er mwyn i’n gwefan weithredu yn ôl yr arfer, ac nid ydynt yn storio unrhyw wybodaeth bersonol.
ASP.NET_SessionId Mae’r cwci hwn yn storio dyfais adnabod unigryw a ddefnyddir i’ch adnabod chi wrth i chi symud rhwng tudalennau’r wefan. Wrth ymweld Sesiwn bori
ASPXAUTH Mae’r cwci hwn yn cofnodi p’un ai eich bod wedi mewngofnodi i’r wefan ai peidio. Wrth i chi fewngofnodi Sesiwn bori neu allgofnodi
cc_cookie_accept Mae’r cwci hwn yn cofnodi p’un ai eich bod wedi derbyn cwcis ar y wefan hon ai peidio. Wrth i chi dderbyn y cwcis 12 mis

 

Gallwch rwystro cwcis trwy actifadu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod gosod rhai o’r cwcis neu bob un o’r cwcis.  Fodd bynnag, os ydych yn defnyddio ein gosodiadau porwr ni i rwystro pob cwci (gan gynnwys cwcis hanfodol) efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’n gwefan neu rannau o’n gwefan. Os nad ydych wedi newid gosodiadau eich porwr er mwyn iddo wrthod cwcis, bydd ein system yn defnyddio’r cwcis unwaith yr ewch chi i mewn i’n gwefan. Am ragor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i’w rheoli a’u rhwystro, ewch i www.allaboutcookies.org. Er mwyn optio allan rhag cael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, rhowch glic ar http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Ble’r ydym yn storio eich data personol

Efallai y bydd y data yr ydym yn eu casglu gennych yn cael eu trosglwyddo i rywle y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), a’u storio yno. Gallent hefyd gael eu prosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r AEE sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Gallai aelodau o staff o’r fath fod yn gysylltiedig â chyflawni eich archeb, prosesu eich manylion talu, a darparu gwasanaethau cymorth, ymhlith pethau eraill. Trwy gyflwyno eich data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddiad, y storio a’r prosesu hyn. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael eu trin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Caiff yr holl wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni ei storio ar ein gweinyddion diogel. Pan fyddwn wedi rhoi cyfrinair i chi (neu pan fyddwch chi wedi dewis cyfrinair) ac mae’n eich galluogi i fynd i mewn i rannau penodol o’n gwefan, chi sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un.

Yn anffodus, nid yw’r broses o drosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn hollol ddiogel. Er i ni wneud ein gorau glas i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch data a drosglwyddir i’n gwefan; wrth i chi drosglwyddo unrhyw wybodaeth rydych yn gwneud hynny ar eich perygl eich hun. Unwaith i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym, er mwyn ceisio atal mynediad anawdurdodedig.

Defnyddio’r wybodaeth

Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

  • Er mwyn sicrhau bod y cynnwys ar ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a’ch cyfrifiadur.
  • Er mwyn rhoi i chi’r wybodaeth, yn cynnyrch neu’r gwasanaethau yr ydych yn gofyn i ni amdanynt neu a allai fod o ddiddordeb i chi yn ein barn ni, lle’r ydych wedi rhoi’ch caniatâd i ni gysylltu â chi at ddibenion o’r fath.
  • Er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n codi o unrhyw gontractau rhyngoch chi a ni.
  • Er mwyn eich galluogi chi i ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan fyddwch chi’n dewis gwneud hynny.
  • Er mwyn dweud wrthych am newidiadau i’n gwasanaeth.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio’ch data, neu’n caniatáu i drydydd parti dethol ddefnyddio’ch data, er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi, a gallem ni neu nhw gysylltu â chi ynglŷn â’r rhain trwy’r post neu dros y ffôn.

Os ydych yn gwsmer i ni yn barod, yna byddwn yn cysylltu â chi trwy ddull electronig yn unig (e-bost neu neges destun i’ch ffôn symudol) gyda gwybodaeth am nwyddau a gwasanaethau sy’n debyg i’r rheiny a werthwyd i chi o’r blaen.

Os ydych yn gwsmer newydd, ac os ydym yn caniatáu i drydydd parti dethol ddefnyddio’ch data, byddwn ni (neu nhw) yn cysylltu â chi trwy ddull electronig dim ond os ydych wedi rhoi’ch caniatâd dros hynny.

Os nad ydych yn dymuno i ni ddefnyddio’ch data yn y ffordd hon, neu os nad ydych yn dymuno i ni drosglwyddo’ch manylion at drydydd parti at ddibenion marchnata, cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i’r cyfeiriad isod.

Datgelu’ch gwybodaeth

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grŵp, sy’n golygu ein his-gwmnïau, ein cwmni daliannol a’i is-gwmnïau, fel y diffinnir yn adran 736 Deddf Cwmnïau’r DU 1985.

allem ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti yn yr achosion canlynol:

  • Os digwydd i ni werthu neu brynu unrhyw fusnes neu ased, ac yn yr achos hwn gallem ddatgelu eich data personol i ddarpar werthwr neu brynwr busnes neu ased o’r fath.
  • Os bydd trydydd parti yn caffael ar Hymans Robertson LLP neu bron y cyfan o’i asedau, ac yn yr achos hwn bydd y data personol sydd ganddo am ei gwsmeriaid yn un o’r asedau a drosglwyddir.
  • Os yw’n ddyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu’ch data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu ddefnyddio ein telerau defnyddio a chytundebau eraill; neu i ddiogelu hawliau, eiddo neu ddiogelwch Hymans Robertson LLP, ein cwsmeriaid, neu unrhyw un arall. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddiben diogelu rhag twyll a lleihau risgiau i gredyd.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn  i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel arfer byddwn yn dweud wrthych (cyn casglu’ch data) os ydym yn bwriadu defnyddio’ch data at ddibenion o’r fath neu os ydym y bwriadu datgelu eich gwybodaeth i drydydd parti at ddibenion o’r fath. Gallwch ddefnyddio’ch hawl i atal eich data rhag cael eu prosesu yn y modd hwn trwy dicio blychau penodol ar y ffurflenni yr ydym yn eu defnyddio i gasglu’ch data.  Gallwch hefyd ddefnyddio’r hawl hwn ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni trwy pensions@powys.gov.uk.

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd dolenni ar ein gwefan, at wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chwmnïau cyswllt, ac oddi yno.  Os ydych yn clicio ar ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwer bod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd mewn perthynas â’r polisïau hyn.  Dylech wirio’r polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

Mynediad at wybodaeth

Mae’r Ddeddf yn rhoi i chi’r hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir amdanoch. Gallwch ddefnyddio’ch hawl mynediad yn unol â’r Ddeddf. Gallai fod ffi o £10 am unrhyw gais am fynediad er mwyn talu am y gost o roi i chi fanylion y wybodaeth yr ydym yn ei dal amdanoch.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Byddwn yn postio unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd yn y dyfodol ar y dudalen hon a, lle y bo’n briodol, byddwn yn dweud wthych trwy e-bost.