Ydych chi’n...

Talu mewn

Datganiadau buddion

Bob blwyddyn byddwn yn anfon / cynhyrchu Datganiad Buddion Blynyddol sy’n dangos amcangyfrif o’ch buddion (gan gynnwys rhagolwg Oedran Pensiwn y Wladwriaeth). Byddwn yn anfon hysbysiadau e-bost i ddweud wrthych chi pryd fydd eich datganiad ar gael i’w lawrlwytho o’ch cyfrif ‘Fy Mhensiwn Powys’. Os ydych chi wedi dewis parhau i dderbyn copïau papur, bydd y datganiadau’n cael eu hanfon drwy’r post.

Cylchlythyrau

O bryd i’w gilydd byddwn yn cyflwyno cylchlythyr a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch newidiadau i reoliadau’r cynllun, materion pensiwn cyfredol a diweddariadau am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. 

Ddim yn talu i mewn mwyach

Datganiadau buddion

Bob blwyddyn, byddwn ni’n cynhyrchu Datganiad Buddion Blynyddol sy’n dangos gwerth eich Buddion Gohiriedig. Byddwn yn anfon e-bost hysbysu atoch i ddweud wrthych chi pryd y bydd eich datganiad ar gael i’w lawrlwytho o’ch cyfrif ‘Fy Mhensiwn Powys’. Os ydych chi wedi dewis parhau i dderbyn copïau papur, caiff y datganiad ei anfon drwy’r post.  

Derbyn eich pensiwn o’r Gronfa

P60

Tystysgrif yw P60 sy’n dangos y pensiwn a dalwyd a’r dreth a ddidynnwyd yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol. Byddwn yn anfon P60 atoch chi ym mis Mai bob blwyddyn.

Slipiau cyflog

Nodwch nad yw Cronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys yn cyflwyno slipiau talu pensiwn bob mis. Felly, byddwch ond yn derbyn slip talu ar gyfer eich taliad pensiwn cyntaf, gydag un blynyddol i ddilyn bob mis Ebrill a Mai. Byddwch chi hefyd yn derbyn un os yw eich taliad pensiwn misol yn newid fwy na £5.00 yn ystod unrhyw fis benodol.

Hysbysiad am gynnydd mewn pensiwn

Byddwn ni’n anfon hysbysiad atoch bob mis Ebrill gyda manylion y cynnydd pensiwn i’w gymhwyso at eich pensiwn. 

Peidiwch ag anghofio cadw mewn cysylltiad a rhoi gwybod i ni os ydych chi’n:
  • Newid cyfeiriad
  • Newid eich banc neu gymdeithas adeiladu
  • Newid eich statws priodasol/perthynas
  • Am newid eich enwebiad o fuddiolwr ar gyfer grant marwolaeth

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol