Geirfa

A

Aelodaeth

Defnyddir aelodaeth i gyfrifo’ch buddion ac mae’n seiliedig ar hyd y cyfnod yr ydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun, ac unrhyw aelodaeth ychwanegol, er enghraifft unrhyw aelodaeth yr ydych yn ei throsglwyddo o gynllun pensiwn arall.

B

Buddion gohiriedig

Cyfrifir eich buddion wrth i chi adael y Cynllun, ar sail yr aelodaeth yr ydych wedi ei chronni a’ch cyflog wrth i chi adael, yn yr un modd ag ymddeoliad. Yna, maent yn cael eu dal yn y Cynllun a byddant yn cynyddu o ran gwerth bob blwyddyn, yn unol â chostau byw, hyd nes y byddant yn cael eu talu.

C

Cofrestru awtomatig

Gofyniad ar gyfer pensiwn gwaith a gyflwynwyd gan y Llywodraeth o fis Hydref 2012. Cafodd ei gyflwyno dros nifer o flynyddoedd, ac roedd gofyn i gyflogwyr mwy o faint fodloni’r gofynion newydd yn gyntaf, gyda chyflogwyr llai yn eu cyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd. Gall gweithwyr optio allan ar unrhyw adeg, ond gallent gael eu hailgofrestru bob tair blynedd o'r dyddiad yr oedd gofyn i’r cyflogwr gydymffurfio â’r rheolau newydd. Ni all cyflogwr gynnig cymhelliad i weithwyr (cyflog ychwanegol, gwyliau ayb.) na’u hannog i beidio ag ymuno â chynllun pensiwn y gweithle neu i optio allan. Following the ending of contracting out from 6 April 2016 the LGPS has been certified as satisfying the Alternative Quality Test in relation to the jobholders employed by all participating employers who are relevant members of that scheme, as required by the Occupational and Personal Pension Schemes (Automatic Enrolment) (Miscellaneous Amendments) Regulations 2016.

Contractio Allan

O 6 Ebrill 1978 nes 5 Ebrill 2016 talodd aelodau’r CPLlL gyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfradd is am eu bod wedi eu "contractio allan" o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) – y daethpwyd i gyfeirio ato’n ddiweddarach fel Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu S2P. Er 6 Ebrill 2016, nid yw aelodau’r CPLlL wedi cael eu "contractio allan" ac maent wedi bod yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar y gyfradd lawn. Bydd y swm ychwanegol y gallech fod yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog.

Cyflog pensiynadwy

Cyflog pensiynadwy yw swm y cyflog yr ydych yn talu cyfraniadau arno. Mae’n cynnwys cyflog sylfaenol, a rhywfaint ychwanegol er enghraifft bonws, lwfans shifft a goramser gwirfoddol. Nid yw’n cynnwys pethau fel costau teithio a threuliau.

Cyflog terfynol

Fel arfer, y cyflog terfynol yw’r cyflog ar gyfer (h.y. sy’n ddyledus am) y flwyddyn olaf yr ydych yn aelod o’r Cynllun lle talwyd cyfraniadau, neu un o’r ddwy flynedd flaenorol os oedd y cyflog hwnnw’n uwch.

Cyfradd groniadau

Y fformiwla a ddefnyddir i ddisgrifio’r gyfradd ar gyfer adeiladu eich buddion pensiwn tra’ch bod yn aelod o CPLlL (waeth a ydych o dan yr elfen cyflog terfynol neu gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio'r cynllun). Caiff ei mynegi fel ffracsiwn (e.e. 1/60, 1/80, 1/49). Po leiaf yw’r rhif ar y gwaelod, y gwell y bydd y buddion pensiwn a gewch chi am yr un faint o wasanaeth pensiynadwy.

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn un ffordd o gynyddu’ch buddion.

D

Diwygio pensiwn y gweithle

Daeth y diwygiadau i bensiwn y gweithle i rym ym mis Hydref 2012. Cawsant eu cyflwyno’n raddol dros nifer o flynyddoedd ac ers y dyddiad hwnnw mae’n rhaid i gyflogwr gofrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig gyda chynllun pensiwn cymwys sy’n bodloni meini prawf penodol, a chyfrannu lleiafswm o arian tuag at eu cynilion ymddeol. Yr enw poblogaidd ar hyn yw cofrestru awtomatig.

G

Gŵr neu wraig

Ystyr hyn yw eich gŵr neu wraig priod, cyfreithlon. Nid yw’n cynnwys gŵr neu wraig dan ‘gyfraith gyffredin’ na rhywun yr ydych yn byw gydag ef/hi fel gŵr neu wraig – ond gweler partner sy’n cydfyw â chi, uchod.

O

Oedran Pensiwn Arferol

Oedran Pensiwn Arferol yw’r oedran y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn heb ostyngiad. Yn y CPLlL mae eich Oed Pensiwn Arferol yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (a’r oed lleiaf yw 65). Gallwch wirio beth yw’ch Oedran Pensiwn Arferol trwy edrych i weld beth yw’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar www.gov.uk/calculate-state-pension.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Yr oed y gallwch dynnu Pensiwn y Wladwriaeth. Yn draddodiadol, roedd oedran pensiwn y wladwriaeth yn 65 i ddynion ac yn 60 i fenywod, er, mae’n hwyrach na hyn i’r rhan fwyaf o bobl erbyn hyn. Gallwch wirio’ch oed pensiwn y wladwriaeth trwy glicio yma www.gov.uk/calculate-state-pension.

P

Partner Sifil

Ystyr hyn yw’r unigolyn yr ydych wedi ffurfio partneriaeth sifil gydag ef/hi.

Partner sy’n cydfyw â chi

Partner hirdymor yr ydych yn byw gydag ef/hi sy’n bodloni’r meini prawf angenrheidiol.

Plant dibynnol cymwys

Mae hyn yn cynnwys eich plant chi’ch hun, plant a fabwysiadwyd gennych a rhai plant eraill sy’n dibynnu arnoch yn ariannol. Fel arfer, rhaid eu bod yn iau na 17, ond gallant fod mor hen â 23 os ydynt yn dal i fod mewn addysg lawn-amser. Gall hyd yn oed gynnwys rhai plant sy’n oedolion a sydd ddim yn gallu gweithio oherwydd anabledd.

R

Rhan-amser

Rydych yn gweithio’n rhan-amser os ydych yn gweithio llai na nifer yr oriau y mae’ch cyflogwr yn eu gweld fel oriau llawn-amser arferol.

Rheol 85

Nid math o ymddeoliad yw Rheol 85. Yn hytrach, mae’n fecanwaith i bennu’r pwynt cynharaf y gellir cymryd buddion yn wirfoddol o’r CPLlL heb leihad am ymddeol yn gynnar. Bodlonir y rheol os yw adio’ch oed a hyd eich aelodaeth o’r cynllun (mewn blynyddoedd cyfan) yn rhoi 85 ar yr adeg yr ydych yn tynnu eich buddion. Cafwyd gwared ar y rheol ar 1 Hydref 2006, ond efallai bod rhywfaint neu’r cyfan o fuddion pensiwn rhai o aelodau’r cynllun a oedd yn cyfrannu at y CPLlL cyn y dyddiad hwnnw, wedi eu diogelu o dan y rheol hon. Mae’r rheolau sy’n llywodraethu’r rheol 85 yn gymhleth a dylech gysylltu â gweinyddwr eich Cronfa i gael gwybod sut y gallai fod yn berthnasol i chi.

S

Swydd gyflogedig

Diffinnir swydd gyflogedig yn rheolau’r cynllun fel unrhyw fath o waith am gyflog, am o leiaf 30 awr yr wythnos, dros gyfnod o 12 mis, o leiaf.