Yn aml, mae’r rheiny sy’n ceisio eich twyllo yn gysylltiadau nad ydych yn eu hadnabod a byddant yn ceisio eich cael chi i ymddiried ynddynt trwy wneud honiadau ffug. Mae’n debygol y byddant yn dweud eu bod wedi eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac yn cyflwyno cyfleoedd deniadol i fuddsoddi pan nad ydych wedi gofyn amdanynt. Eu bwriad yw ceisio cael rheolaeth dros eich pot pensiwn. Mewn amgylchiadau eraill, gallai’r arian gael ei ddwyn yn syth oddi arnoch.

Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i’w gredu, yna mae’n debygol na ddylech ei gredu. Mae rhai o’r arwyddion rhybudd i fod yn effro iddynt yn cynnwys cyfleoedd i fuddsoddi sydd â lefel isel o risg ac enillion uchel, adolygiadau pensiwn “rhad ac ddim”, tactegau gwerthu ymosodol a chynlluniau buddsoddi cymhleth, lle nad yw’n glir ble bydd eich arian yn y pendraw. Os oes rhif nad ydych yn ei adnabod yn eich ffonio ac yn cyflwyno unrhyw gyfleoedd fel hyn i chi, mae bron yn sicr mai sgam ydyw. Wedi dweud hynny, cofiwch, yn dilyn y gwaharddiad ar alwadau diwahoddiad yn 2019, fod llawer o dwyllwyr yn canolbwyntio ar y cyfryngau cymdeithasol nawr i gyrraedd pobl.

Rhywbeth arall y mae twyllwyr yn ei wneud yw gofyn i bobl gyfeirio ffrindiau, aelodau o’r teulu a chydweithwyr atynt. Erbyn y cam yma, mae’r twyllwyr wedi meithrin perthynas dda gyda’u dioddefwr gwreiddiol, sy’n credu eu bod wedi cael gwasanaeth da. Gall sawl blwyddyn fynd heibio cyn iddi ddod yn amlwg fod rhywun wedi colli eu pensiwn. Os cewch eich cyfeirio at rywun gyda’r cyngor y gallant eich helpu gyda’ch pensiwn, byddwch ar eich gwyliadwriaeth a sicrhewch fod y cynghorydd yn dweud y gwir am bwy ydyw.

Sgamiau cyffredin i chi fod yn effro iddynt yw cynlluniau sy’n rhyddhau eich pensiwn yn gynnar a sgamiau adolygu pensiynau. Mae unrhyw gynllun sy’n cynnig eich helpu i ryddhau arian o’ch pensiwn cyn i chi gyrraedd 55 oed, yn sgam, bron yn ddi-os. Yn ogystal, mae sgamiau adolygu pensiynau yn cysylltu â phobl yn annisgwyl gan gynnig adolygu eu pensiwn am ddim. Gallai fod yn alwad ffôn, yn neges e-bost, yn neges destun neu’n gynnig mewn hysbyseb ar-lein. Mae mwyafrif y cwmnïau sy’n cynnig adolygu eich pensiwn yn rhad ac am ddim yn gwmnïau sydd ddim wedi cael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ond efallai y byddant yn honni eu bod wedi eu hawdurdodi er  nad yw hynny’n wir.

Am ragor o wybodaeth am y sgamiau cyffredin hyn, dilynwch y dolenni isod:

 

Nawr, fwy nag erioed, mae’n bryd bod ar eich gwyliadwriaeth. Mae twyllwyr yn targedu potiau pensiwn yn weithgar yn ystod pandemig y Coronafeirws (Covid-19). Oherwydd natur gyfnewidiol y farchnad stoc yn ystod y pandemig, mae pensiynau wedi teimlo’r effaith ac mae llawer o bobl wedi wynebu anawsterau ariannol. Efallai y bydd rhai’n cael eu temtio i gymryd rhywfaint o’u pensiwn. Fel y dywedwyd yn barod, nid yw hyn yn bosibl cyn cyrraedd 55 oed, fel arfer, ac eithrio mewn achosion o salwch neu lle’r ydych wedi amddiffyn eich oed ymddeol ac mae’n iau na 55 oed. Dylai aelodau sy’n gofyn am ddyfynbris gogyfer â Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gywerth ag Arian Parod, o gynllun buddion diffiniedig i gynllun cyfraniadau diffiniedig, fod yn arbennig o effro i’r perygl o gael eu twyllo yn ystod Covid-19. Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o sgamiau yn ymwneud â phensiwn, mae’r twyllwyr yn addo enillion uchel a risg isel. Os yw rhywun sy’n cynilo yn holi am drosglwyddo eu pensiwn, anogwch nhw i fod yn hynod o ofalus.

Dyma bedwar cam allweddol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i amddiffyn eich hun rhag dwyll yn ymwneud â phensiwn:

Cam 1 – Gwrthodwch unrhyw gynigion annisgwyl

Cam 2 – Gwiriwch i weld pwy yr ydych yn trafod â nhw

Cam 3 – Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro na rhoi pwysau arnoch

Cam 4 – Mynnwch wybodaeth neu gyngor diduedd

Am ragor o wybodaeth am bob un o’r camau hyn, ewch i wefan atal twyll yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol