Cyflogwyr sydd yn y Cynllun

Mae cyflogwyr sy’n cyfranogi yn y Gronfa i’w gweld yn y categorïau canlynol:

  • Cyflogwyr Cofrestredig

Caiff cyflogwyr cofrestredig eu diffinio yn rheoliadau’r Gronfa ac mae ganddynt oblygiad statudol i ganiatáu i’w staff gael aelodaeth awtomatig o’r Gronfa, ar yr amod eu bod yn gymwys i ymuno.

Mae cyrff cofrestredig yn cynnwys Cynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Colegau Addysg Bellach, Ysgolion yr Awdurdod Lleol, ac ati

  • Cyrff Derbyn

Gall mathau penodol o weithwyr gyfranogi yn y Gronfa drwy gytundeb derbyn a gytunwyd gyda Chronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys.

Ceir dau fath o gorff derbyn:

  • Corff Derbyn Cymunedol (CDC) sy’n cynnwys sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus at ddibenion gwahanol i ddibenion elw, ac sydd â chysylltiadau digonol â Chyflogwr y Cynllun i gael ei ystyried i fod â diddordeb cymunedol.
  • Corff Derbyn Trosglwyddai (CDT). Mae’r Gronfa’n caniatáu staff i gael cynnig aelodaeth o’r Gronfa o dan gytundeb derbyn, ble mae gwasanaeth wedi ei allanoli i’r sector preifat. Er mwyn cael mynediad at y cynllun, rhaid i CDT gael ei ystyried i ddarparu gwasanaeth neu asedau mewn cysylltiad ag ymarferiad swyddogaeth gan Gyflogwr y Cynllun.

Ar hyn o bryd, mae gan y cyflogwyr canlynol aelodau actif sy’n cyfranogi yng Nghronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys:

Cyflogwyr y Cynllun

Cyflogwyr Cofrestredig

  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Tref y Trallwng
  • Cyngor Tref y Drenewydd
  • Cydbwyllgor Claddedigaeth Llanidloes
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog  
  • Cyngor Tref Ystradgynlais
  • Cyngor Cymuned Ystradfellte
  • Cyngor Tref Llandrindod
  • Cyngor Tref Aberhonddu
  • Cyngor Tref Llanidloes
  • Cyngor Tref Machynlleth

Cyrff Derbyn

  • PAVO                                                     
  • Gyrfa Cymru
  • Menter Maldwyn 
  • Theatr Brycheiniog     
  • Mirus-Wales 
  • Freedom Leisure (CSP gynt)
  • Y Neuadd Les Ystradgynlais
  • Gwasanaethau Busnes Adapt
  • Gofal Iechyd Shaw (BUPA gynt)                                                                                    

               

Ewch i safle Rheoliadau a Chanllaw Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol am adnoddau pellach y Cyflogwr.

Opens in new window Archwilio