Cwestiynau Cyffredin

A fydd gen i ddigon o arian wedi i mi ymddeol?

Ydych chi’n cynilo digon o arian er mwyn i chi allu ymddeol yn gyffyrddus?

Hyd yn oed os ydych wedi bod yn cynilo ar gyfer eich ymddeoliad am fwyafrif eich bywyd gwaith, efallai na fydd eich pensiwn yn ddigon i chi gael byw’n gyffyrddus wedi i chi ymddeol neu i ddarparu’n ddigonol ar gyfer eich dibynyddion.

Gwelir y Cynllun fel un sy’n darparu buddion rhesymol i lawer o’i aelodau wedi iddynt ymddeol, ond mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau ac efallai na fydd hyn yn wir i chi.

Efallai na fydd eich pensiwn yn ddigon i chi gael byw’n gyffyrddus os ydych:

  • wedi cael saib yn eich gyrfa
  • wedi ymuno â’r cynllun yn hwyrach yn eich bywyd
  • wedi optio allan yn flaenorol
  • eisiau ymddeol yn gynnar
  • eisiau darparu mwy ar gyfer eich dibynyddion neu
  • wedi newid eich swydd sawl gwaith
Beth allwch chi ei wneud?

Un opsiwn yw talu cyfraniadau ychwanegol er mwyn rhoi hwb i’ch pensiwn. Beth bynnag y gwnewch chi, dylech sicrhau eich bod yn cael cyngor ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Safonau Byw wedi Ymddeol

Mae PLSA (Pensions and Lifetime Savings Association) wedi cyhoeddi cyfres o safonau o’r enw ‘Retirement Living Standards’ i’n helpu i gael darlun o’r math o fywyd y gallem ei gael wedi i ni ymddeol a faint y gallai’r bywyd hwnnw gostio. Ewch i www.retirementlivingstandards.org.uk am ragor o wybodaeth.

Ydw i’n gallu rhoi hwb i fy mhensiwn?

Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at ymddeoliad hapus a chyffyrddus.

Er mwyn cael ychydig bach mwy yn ystod eich ymddeoliad, efallai y byddwch yn dymuno ystyried talu cyfraniadau ychwanegol. Gall hyn fod yn ffordd dreth-effeithiol o ychwanegu at eich incwm wedi i chi ymddeol.

Mae yna sawl ffordd i chi ychwanegu at yr incwm a gewch yn ystod eich ymddeoliad, yn ychwanegol at y buddion yr ydych yn edrych ymlaen atynt yn barod fel aelod o’r Cynllun:

 

  • Prynu pensiwn ychwanegol o’r gronfa
  • Talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol mewnol
  • Dyfarniadau pensiwn ychwanegol gan y cyflogwr
  • Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol sy’n sefyll ar eu pen eu hun
  • Cynllun pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid personol

 

Ewch i’r dudalen 'Talu mwy o gyfraniadau' yn Cymorth am ragor o wybodaeth. Mae croeso i chi gysylltu â ni hefyd am ragor o wybodaeth.

Beth yw pensiwn y wladwriaeth?

Newidiodd pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2016 i bobl sy’n cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae hyn yn golygu dynion a aned ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, a menywod a aned ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Roedd yr hen reolau (a oedd yn cynnwys Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth) yn gymhleth, ac roedd yn anodd gwybod faint y byddech yn ei gael hyd nes eich bod yn agos at Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ond ni fydd pob un yn cael Pensiwn newydd llawn y Wladwriaeth, oherwydd bydd yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae Pensiwn newydd llawn y Wladwriaeth ar gyfer 2022/23 yn £185.15 yr wythnos.

Mae pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ar gyfer 2022/23 wedi codi o £137.60 i £141.85 yr wythnos (£4.25), a chyfradd lawn pensiwn newydd y wladwriaeth wedi codi o £179.60 i £185.15 yr wythnos (£5.55).

Bydd pob blwyddyn gymwys ar eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 5 Ebrill 2016 yn ychwanegu tua £5.13 yr wythnos at eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth. Cyfrifir yr union swm y byddwch yn ei gael trwy rannu £185.15 gyda 35 ac yna lluosi’r ateb gyda nifer y blynyddoedd cymwys ar ôl 5 Ebrill 2016.

Os oes gennych gwestiynau am bensiynau’r Wladwriaeth, ewch i www.gov.uk

Gallwch ddod o hyd i’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth trwy ddefnyddio teclyn cyfrifo Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. 

Caiff y Cynllun ei 'gontractio allan' o Ail Bensiwn y Wladwriaeth (gweler yr adran berthnasol isod).

Beth yw ystyr "contractio allan"?

Cefndir

O 6 Ebrill 1978 nes 5 Ebrill 2016 talodd aelodau’r CPLlL gyfraniadau yswiriant gwladol ar gyfradd is am eu bod wedi eu "contractio allan" o Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) – y daethpwyd i gyfeirio ato’n ddiweddarach fel Ail Bensiwn y Wladwriaeth neu S2P.

Mae hyn yn golygu bod aelodau’r CPLlL wedi talu cyfradd is ac yn cael pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn unig, yn hytrach na thalu cyfraniadau yswiriant gwladol llawn a chael pensiwn sylfaenol y wladwriaeth ac ail bensiwn y wladwriaeth.

Fodd bynnag, penderfynodd y llywodraeth newid y ffordd yr enillir pensiynau’r wladwriaeth. Er 6 Ebrill 2016 cafwyd pensiwn un gyfradd i bawb. Ond, mae angen i chi fod wedi talu’r yswiriant gwladol llawn am dipyn o amser cyn i chi gael y swm llawn. Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen at wefan pensiwn y wladwriaeth.

Y dyfodol

Yn ganlyniad i’r newid hwn i bensiwn y wladwriaeth, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’r opsiwn i gynlluniau pensiwn gael eu contractio allan o gynllun pensiwn y wladwriaeth, yn dod i ben. Yn sgil hyn, er 6 Ebrill 2016, mae aelodau’r CPLlL wedi bod yn talu cyfraniadau yswiriant gwladol ar y gyfradd lawn. Bydd y swm ychwanegol y bu’n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog.

Mae’n bwysig eich bod yn deall faint o bensiwn y wladwriaeth y byddwch yn ei gael a phryd y byddwch yn ei gael. Edrychwch ar wefan y llywodraeth trwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.gov.uk/state-pension/overview

A ydw i’n gallu cael fy nghyfraniadau yn ôl?

Os ydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun am lai na 2 flynedd ac nid ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn i mewn o gynllun pensiwn arall, gallwch ofyn am eich cyfraniadau yn ôl.

Dim ond eich cyfraniadau chi eich hun y gellir eu had-dalu, ac nid y cyfraniadau a dalwyd gan eich cyflogwr. Tynnir swm o’r cyfrif i wneud iawn am ryddhad treth ac, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.

Beth yw’r buddion o ran treth?

Aelodau sy’n talu i mewn

Er mwyn annog pobl i dalu i mewn i bensiwn, mae yna reolau arbennig ynghylch trethu cyfraniadau a rhai buddion.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu cynilo cymaint ag y dymunant a chael rhyddhad llawn ar dreth, gan y bydd eu cynilion pensiwn dipyn yn llai na’r hyn a ganiateir cyn trethu.

Mae yna lwfans blynyddol sy’n cyfyngu ar faint y gall eich pensiwn godi bob blwyddyn. Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) sy’n gosod y terfyn hwn a gall newid bob blwyddyn.

Y terfyn ar gyfer 2023/24 yw £60,000, ond mae yna reolau arbennig erbyn hyn ar gyfer y rheiny sy’n ennill cyflogau uwch ac sy’n ennill dros £260,000 y flwyddyn. Cysylltwch â ni os ydych yn credu y gallai’r lwfans blynyddol effeithio arnoch.

O 6ed Ebrill 2023, bydd y taliad lwfans oes  yn cael ei ddileu. Disgwylir y bydd y lwfans oes yn cael ei ddiddymu ar ôl 6ed Ebrill 2024. Bydd y mwyafswm cyfandaliad cychwyn pensiwn (PCLS), h.y. cyfandaliad ymddeoliad sy’n rhydd o dreth, i aelodau heb warchodaeth trosi flaenorol yn cael ei gadw ar y lefel bresennol o £268,275 (25% yw £1,073,100)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan CThEF am y lwfans blynyddol yma ac am y lwfans oes yma

Pensiynwyr

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich incwm o hyd, wedi i chi ddechrau cymryd eich pensiwn.

Rydym yn tynnu’r swm hwn allan o’ch cyflog trwy Dalu Wrth Ennill (TWE).

Beth sy’n digwydd os oes gen i gwestiwn am faint o dreth incwm yr wyf yn ei thalu?

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) sy’n cyfrifo faint o dreth incwm ddylech chi fod yn ei thalu ac mae’n rhoi’r cod treth i ni i’w osod yn erbyn eich pensiwn. Bydd angen i chi siarad yn uniongyrchol â CThEF. Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 200 3300 (neu 0300 200 3319 ar gyfer ffôn testun) neu +44135 535 9022 os ydych y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Bydd arnoch angen eich rhif Yswiriant Gwladol (gallwch ddod o hyd iddo ar eich P60)

Beth sy’n digwydd os ydw i’n mynd yn ôl i weithio ar ôl i mi ymddeol?

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â ni os ydych yn mynd yn ôl i weithio ym maes Llywodraeth Leol, neu i gyflogwr lle y gallech ddod yn aelod o’r CPLlL. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gwaith pellach yn effeithio ar eich pensiwn. Ond rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn cael swydd arall.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n marw?

Yn yr adran am farw yn ystod ymddeoliad, cewch fanylion yr hyn y dylai’r sawl sy’n gofalu eich materion ei wneud wedi i chi farw a pha fuddion pellach allai fod ym daladwy o’r Cynllun.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni