Ar hyn o bryd, mae yna ddwy ffordd i chi gynyddu eich pensiwn o’r Cynllun.

  • Prynu pensiwn ychwanegol

  • Talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Peidiwch ag anghofio eich bod yn cael rhyddhad treth ar gyfraniadau ychwanegol a bod hyn yn lleihau eu gwir cost i chi. Mae yna ragor o wybodaeth yma.

Mae yna gyfyngiadau ar y cyfraniadau ychwanegol y gallwch eu talu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Prynu pensiwn ychwanegol

Gallwch brynu mwy o bensiwn, hyd at uchafswm o £7,352 (cyfraddau 2022/23).

Bydd y pensiwn ychwanegol yr ydych yn ei brynu yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch pensiwn ymddeol.

Faint yw’r gost?

Bydd y gost i chi yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Ceir ambell i enghraifft gyffredinol isod.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r teclyn cyfrifo ar-lein a ddatblygwyd gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) i gael amcan o gost prynu pensiwn ychwanegol.  Mae’r teclyn cyfrifo ar gael yma.

Efallai y bydd yr awdurdod gweinyddu ar gyfer eich cronfa bensiwn yn gofyn i chi gyflwyno adroddiad meddygol boddhaol cyn derbyn eich cais, a chi fyddai’n talu am yr adroddiad hwnnw. Pan fo hynny’n wir, cewch wybod beth yw’r broses i’w dilyn ar ôl i chi gyflwyno’ch cais i dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol.

Enghraifft 1

Mae Kyle yn 25 ac eisiau prynu pensiwn blynyddol ychwanegol o £1,000.

Mae eisiau talu’r cyfraniadau ychwanegol y byddai’n rhaid eu talu dros gyfnod o 20 mlynedd.

Y gost o brynu £1,000 o bensiwn blynyddol ychwanegol yw £40.50 y mis am yr 20 mlynedd nesaf (cyfanswm o £9,720.00).

Enghraifft 2

Mae Marion yn 47 oed ac eisiau prynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol.

Mae eisiau talu amdano dros gyfnod o 10 mlynedd.

Byddai’r gost o brynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol yn £90.75 y mis am y 10 mlynedd nesaf (cyfanswm o £10,890.00).

Talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Gallwch dalu mwy o gyfraniadau i’n cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (y cyfeirir atynt weithiau fel cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol “mewnol”).

Chi’n sy’n dewis faint o Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i’w talu a sut y byddant yn cael eu buddsoddi. Mae’r arian yn dod yn syth o’ch cyflog, ac yn mynd at eich darparwr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a fydd yn ei fuddsoddi ar eich rhan.

Beth sy’n digwydd pan fyddaf yn ymddeol?

Gallwch ddefnyddio’ch Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i gymryd cyfandaliad o’r gronfa wrth i chi ymddeol, neu gallwch brynu blwydd-dal.

Os oes diddordeb gennych mewn talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, yna cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am ein darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Neu, gallwch fynd i wefan/wefannau arbennig llywodraeth leol sy’n trafod Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, trwy fynd i’n hadran ‘Dolenni defnyddiol’.

Nodwch

O dan reoliadau blaenorol, roedd yna ffyrdd gwahanol o brynu aelodaeth neu bensiwn ychwanegol. Efallai bod gennych un o’r trefniadau hyn yn eu lle a bydd y trefniant hwn yn cael ei anrhydeddu. Mae’r opsiynau blaenorol hyn wedi ei cau erbyn hyn ac ni allwn dderbyn unrhyw geisiadau newydd.

Methu â dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni