Gyda chofrestru awtomatig, os nad ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn barod, byddwch yn ymuno â’r Cynllun yn awtomatig ar yr adeg yn y dyfodol pan fyddwch:

  • â chontract cyflogaeth am dri mis neu fwy;
  • yn ennill dros £10,000 y flwyddyn (neu gyfnod cyflog pro rata);
  • yn 22 oed neu’n hŷn; ac
  • yn iau nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os cewch eich cofrestru’n awtomatig, gallwch ddewis gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol trwy optio allan ar unrhyw adeg. Gallwch weld manylion categorïau gweithwyr gwahanol a sut y mae cofrestru awtomatig yn effeithio arnyn nhw, yn nes ymlaen ar y dudalen hon.

Ydych chi’n aelod yn barod?

Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn barod, ni fydd cofrestru awtomatig yn effeithio arnoch gan eich bod yn aelod o gynllun pensiwn cymwys yn barod. Ond, os ydych yn newid at swydd arall neu’n cymryd swydd arall yn y dyfodol, gallai hynny effeithio arnoch.

Bydd pob cyflogwr wedi gosod ei ddyddiad ei hun ar gyfer cydymffurfio â chofrestru awtomatig. Oherwydd hyn, bydd arnoch angen cysylltu â’ch cyflogwr eich hun er mwyn darganfod erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer cofrestru awtomatig.

Cwestiynau cyffredin am gofrestru awtomatig

Pam y mae pobl yn cael eu cofrestru’n awtomatig gyda chynllun pensiwn?

Rhaid i gyflogwr gofrestru gweithwyr yn nhrefniant cynllun pensiwn y gweithle o’i ‘ddyddiad gweithredu’. Y dyddiad hwn yw’r dyddiad a roddwyd iddo gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ac mae’n cael ei osod yn ôl nifer y bobl y mae’r cyflogwr yn eu cyflogi. Oherwydd hyn, ni fydd ‘dyddiad gweithredu’ pob cyflogwr sy’n rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yr un peth. Bydd arnoch angen cysylltu â’ch cyflogwr er mwyn darganfod erbyn pryd y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â chofrestru awtomatig os nad ydyw wedi gwneud hynny yn barod.

Y nod yw annog pobl i gynilo tuag at eu hymddeoliad, er mwyn iddynt gael digon o incwm i allu mwynhau eu hymddeoliad. Y gyfradd lawn ar gyfer Pensiwn newydd y Wladwriaeth yw £179.60 yr wythnos. Mae wedi’i chynllunio fel sylfaen, ac mae’n annhebygol y bydd yn ddigon i’r rhan fwyaf o bobl wedi iddynt ymddeol.

A fyddaf yn cael fy ngosod yn ôl i mewn i’r Cynllun hyd yn oed os ydw i wedi optio allan o’r blaen?

Os ydych yn bodloni’r meini prawf, yna ‘byddwch’ yw’r ateb.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob cyflogwr ailgofrestru ei weithwyr yn awtomatig ar gyfer pensiwn y gweithle bob tair blynedd, os ydynt yn bodloni gofynion penodol.

Gall bob gweithiwr ymuno â’r cynllun pensiwn ar unrhyw adeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Os ydych yn bodloni’r meini prawf, efallai y cewch eich gosod yn ôl yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hyd yn oed os ydych wedi penderfynu o’r blaen nad ydych yn dymuno bod yn aelod.

Os cewch eich cofrestru’n awtomatig, gallwch ddewis gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol trwy optio allan ar unrhyw adeg.

Ydw i’n gallu ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol os nad wyf yn cael fy nghofrestru neu ailgofrestru’n awtomatig?

Ydych. Os hoffech ymuno â’r CPLlL ac rydych yn iau na 75 oed, gallwch wneud hynny ar unrhyw adeg, waeth faint yw eich cyflog a waeth beth yw hyd eich contract. Cysylltwch â’ch cyflogwr os ydych yn dymuno ymuno â’r CPLlL neu ailymuno.

Categorïau gweithwyr

Yn y tabl canlynol, cewch wybod am y categorïau gweithwyr gwahanol, a sut y gallai’r rheolau cofrestru awtomatig effeithio arnoch chi.

Pa fath o weithiwr ydych chi?

Sut y bydd cofrestru awtomatig yn effeithio arnoch?

22 oed neu’n hŷn ac rydych yn ennill dros £10,000 y flwyddyn (neu pro rata yn ystod unrhyw gyfnod cyflog) ac rydych yn iau nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Deiliad swydd cymwys

Cewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Rydych yn 22 neu’n hŷn ond rydych yn ennill rhwng £6,240 a £10,000 y flwyddyn (neu pro rata yn ystod unrhyw gyfnod cyflog).

Deiliad swydd anghymwys

Ni chewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond gallwch ymuno trwy gysylltu â’ch cyflogwr. Os nad ydych yn ymuno, cewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y CPLlL os ydych yn dod yn ‘ddeiliad swydd cymwys’ yn y dyfodol.

Nid ydych yn bodloni unrhyw rai o’r gofynion uchod.

Gweithiwr â hawl

Ni chewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond gallwch ymuno trwy gysylltu â’ch cyflogwr. Os nad ydych yn ymuno, cewch eich cofrestru’n awtomatig ar gyfer y CPLlL os ydych yn dod yn ‘ddeiliad swydd cymwys’ yn y dyfodol.

Nodwch

Dyma’r trothwyon cyflog er mis Ebrill 2023, a gallent newid bob blwyddyn ym mis Ebrill. Os nad ydych yn siŵr beth yw’r trothwyon cyflog, dylech gysylltu â’ch cyflogwr.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni