Croeso i’r adran am aelodaeth a chyfraniadau. Yma, cewch wybod beth yw’r gost o fod yn rhan o’r cynllun, opsiynau i wella’ch buddion, a gwybodaeth am effaith absenoldebau a gweithio’n rhan-amser yn ogystal â’r posibilrwydd o drosglwyddo eich hawliau pensiwn o gynllun arall.

Isod, mae yna atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin am aelodaeth a chyfraniadau.

Cwestiynau cyffredin

Beth yw’r gost?

Mae’r gost yn dibynnu ar eich cyflog, ond bydd yn costio rhwng 5.5% a 12.5% o’ch cyflog pensiynadwy.

Bydd eich cyfradd yn dibynnu ar eich band cyflog.

Bydd y gwir gost i chi yn llai, gan nad ydych yn talu treth ar y swm yr ydych yn ei dalu i mewn i’ch pensiwn.

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser, byddwch yn talu cyfraniadau ar eich cyflog gwirioneddol yn unig.

Enghraifft

Mae Alex yn gweithio’n llawn-amser ac mae ei gyflog pensiynadwy yn £20,000 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu ei fod ym mand 2 ac felly bydd yn talu 5.8% o £20,000.

Mae hyn yn £96 y mis, ond y gwir gost fydd £77 ar ôl ystyried arbedion yn sgil rhyddhad treth.

Petai’n gweithio’n rhan-amser (hanner yr oriau) byddai ond yn talu 5.5% o’i gyflog pensiynadwy o £10,000.

Beth yw fy nghyfradd gyfrannu?

Mae eich cyfradd gyfrannu yn dibynnu ar eich cyflog, ond bydd rhwng 5.5% a 12.5% o’ch cyflog pensiynadwy. Mae’r gyfradd y byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar eich band cyflog.

Os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig, bydd eich cyfradd yn seiliedig ar y gyfradd gyflog wirioneddol ar gyfer eich swydd, ac felly byddwch yn talu cyfraniadau ar sail y cyflog yr ydych yn ei ennill mewn gwirionedd yn unig.

Dyma’r bandiau cyflog er 1 Ebrill 2022:

Band cyflog

Cyflog blynyddol Cyfradd gyfrannu’r brif adran Cyfradd gyfrannu 50/50

1

Hyd at £15,000 5.50% 2.75%
2 £15,001 i £23,600 5.80% 2.90%
3 £23,601 i £38,300 6.50% 3.25%
4 £38,301 i £48,500 6.80% 3.40%
5 £48,501 i £67,900 8.50% 4.25%
6 £67,901 i £96,200 9.90% 4.95%
7 £96,201 i £113,400 10.50% 5.25%
8 £113,401 i £170,100 11.40% 5.70%
9 £170,101 neu fwy 12.50% 6.25%

Nodwch

Bydd ystod y bandiau cyflog yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â chostau byw.

Sut alla i gynyddu fy mhensiwn?

O dan reoliadau blaenorol, roedd yna ffyrdd gwahanol o brynu aelodaeth neu bensiwn ychwanegol. Efallai bod gennych un o’r trefniadau hyn ar waith a bydd hyn yn cael ei anrhydeddu. Nid yw’r opsiynau blaenorol hyn ar gael mwyach ac ni allwn dderbyn unrhyw geisiadau newydd. Fodd bynnag, er 1 Ebrill 2014 mae yna ffordd newydd o brynu pensiwn ychwanegol a manylir ar hyn isod.

Prynu pensiwn ychwanegol

Gallwch brynu mwy o bensiwn, hyd at uchafswm o £7,352.

Bydd y pensiwn ychwanegol yr ydych yn ei brynu yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch pensiwn ymddeol.

Beth yw’r gost?

Bydd y gost yn dibynnu ar nifer o ffactorau.

Dyma ambell enghraifft gyffredinol:

Enghraifft 1

Mae Kyle yn 25 oed ac eisiau prynu £1,000 o bensiwn blynyddol ychwanegol.

Mae Kyle eisiau talu’r cyfraniadau ychwanegol a fyddai’n angenrheidiol dros gyfnod o 20 mlynedd.

Mae prynu £1,000 o bensiwn blynyddol ychwanegol yn costio £40.50 y mis am yr 20 mlynedd nesaf (cyfanswm o £9,720.00).

Enghraifft 2

Mae Marion yn 47 oed ac eisiau prynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol.

Mae eisiau talu’r swm yma dros gyfnod o 10 mlynedd.

Mae prynu £750 o bensiwn blynyddol ychwanegol yn costio £90.75 y mis am y 10 mlynedd nesaf (cyfanswm o £10,890.00).

Gallwch hefyd ddefnyddio’r teclyn cyfrifo ar-lein a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) i gael syniad o gost prynu pensiwn ychwanegol. I fynd at y teclyn cyfrifo, rhowch glic ar y ddolen ganlynol :

Teclyn Cyfrifo Pensiwn Ychwanegol LGA

Pwysig

Efallai y bydd yr awdurdod sy’n gweinyddu eich cronfa bensiwn yn gofyn i chi gyflwyno adroddiad meddygol boddhaol cyn derbyn eich cais, a chi fyddai’n talu am yr adroddiad hwnnw. Os yw hyn yn wir, byddwch yn cael gwybod am y broses i’w dilyn cyn cyflwyno’ch cais i dalu cyfraniadau pensiwn ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni

Talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Gallwch dalu mwy o gyfraniadau i’n cynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (weithiau gelwir y rhain yn gynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol “mewnol”).

Chi sy’n dewis faint o Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i’w talu a sut y byddant yn cael eu buddsoddi. Mae’r arian yn dod yn syth o’ch cyflog ac yn mynd at ddarparwr y Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a fydd yn ei fuddsoddi ar eich rhan.

Beth sy’n digwydd wedi i mi ymddeol?

Gallwch ddefnyddio’ch Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol i gymryd cyfandaliad o’r gronfa wrth i chi ymddeol, neu gallwch brynu blwydd-dal.

Os oes diddordeb gennych mewn talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol. Neu, gallwch fynd at y wefan arbennig ar gyfer llywodraeth leol, i weld beth yw eich opsiynau o ran Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol.

Nodwch

Cewch ryddhad treth ar gyfraniadau ychwanegol ac mae hyn yn lleihau’r gwir gost i chi.

Fodd bynnag, mae yna derfyn ar y cyfraniadau ychwanegol y gallwch eu talu. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Beth os yw fy nghyflog yn gostwng?

Os ydych wedi ymuno â’r cynllun cyn 1 Ebrill 2014 ac mae’ch cyflog yn gostwng, gallai hyn leihau gwerth elfen ‘cyflog terfynol’ eich buddion pensiwn. Ond, os yw’ch cyflog wedi newid wedi i’ch swydd gael ei hailraddio fel rhan o broses adrefnu, yna wrth i chi adael y cynllun pensiwn gallwch ofyn i’r gronfa bensiwn gyfrifo eich pensiwn gan ddefnyddio’r ffigwr cyfartalog gorau ar gyfer eich cyflog o gyfnod o dair blynedd yn y 13 mlynedd ddiwethaf. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Os bydd eich oriau gwaith yn newid ond y gyfradd yn aros yr un peth, ni fydd hyn yn effeithio ar y pensiwn y byddwch wedi ei gronni yn barod. Am ragor o wybodaeth gweler “Beth os ydw i’n gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig?”

Os ydych yn cael cyfyngiad neu leihad gorfodol a pharhaol i’ch cyflog pensiynadwy cytundebol (ond nid eich oriau gwaith) gallai eich cyflogwr roi tystysgrif diogelu cyflog i chi, neu gallwch ofyn am un. Mae’r dystysgrif yn ddilys am 10 mlynedd o ddyddiad y lleihad neu’r cyfyngiad, tra’ch bod yn parhau i fod yn yr un swydd. Bydd hyn yn eich galluogi i ofyn i’ch cyflogwr gyfrifo eich buddion pensiwn gan adlewyrchu’r cyflog y byddech wedi disgwyl ei gael petaech heb gael lleihad neu gyfyngiad. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Beth os ydw i’n gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig?

O 1 Ebrill 2014, rydych yn talu cyfraniadau ar y cyflog yr ydych yn ei ennill mewn gwirionedd yn unig.

Bob mis Ebrill, bydd eich cyflogwr yn penderfynu ar eich cyfradd gyfrannu briodol ar gyfer pob swydd, trwy gyfateb eich cyflog pensiynadwy gwirioneddol at y band priodol yn y tabl cyfraddau cyfrannu.

Enghraifft

Mae Kate yn gweithio’n rhan-amser. Mae’n gweithio hanner yr oriau y mae cydweithiwr llawn-amser yn eu gweithio.

Petai’n gyflogai llawn-amser, byddai’n ennill £30,000 y flwyddyn. Gan ei bod yn gweithio hanner yr amser hwn, ei chyflog ran-amser gwirioneddol yw £15,000 ac felly mae ym mand cyflog 2. Felly, mae ei chyfradd gyfrannu yn 5.8%.

Gweler "Sut y mae fy muddion yn cael eu cyfrifo?" am ragor o fanylion am y ffordd y mae’ch buddion yn cael eu cyfrifo wedi i chi ymddeol os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu yn ystod y tymor ysgol yn unig.

 

Beth os ydw i’n absennol o’r gwaith?

Mae yna sawl rheswm y gallech fod yn absennol o’r gwaith. Gall y rhain gynnwys:

  • Absenoldeb teuluol (cyfnod mamolaeth, cyfnod tadolaeth neu gyfnod mabwysiadu)
  • Absenoldeb oherwydd salwch
  • Absenoldeb Lluoedd Wrth Gefn
  • Cyfnod absenoldeb awdurdodedig
  • Absenoldebau Oherwydd Anghydfod Undebol (streic) - gweler 'Dogfennau cysylltiedig' ar y dudalen hon
  • Gwasanaeth rheithgor

Gallai pob un o’r rhain gael effaith wahanol ar eich buddion pensiwn. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

A gaf i drosglwyddo fy muddion?

Os ydych yn dymuno trosglwyddo buddion i mewn i’r Cynllun dylech lenwi cais i drosglwyddo. Ewch i’r dudalen adnoddau i ddod o hyd i’r ffurflen berthnasol.

Byddwn yn ymchwilio ac yn roi amcan i chi o’r hyn y byddai’r taliad trosglwyddo yn ei brynu i chi yn y Cynllun. Yna, gallwch benderfynu a ydych am fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad ai peidio.

Mae gennych 12 mis yn unig o’r adeg yr ydych yn ymuno â’r gronfa i drosglwyddo pensiwn blaenorol i mewn i’r Cynllun.

Mae penderfynu a ddylech drosglwyddo pensiwn blaenorol ai peidio, yn benderfyniad pwysig. Dylech gael cyngor ariannol annibynnol cyn dod i unrhyw benderfyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn i’r Cynllun.

A gaf i gyfuno hawliau pensiwn blaenorol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol?

Os ydych yn ailymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fel arfer byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am unrhyw opsiynau sydd gennych i gyfuno eich hawliau pensiwn blaenorol.

A gaf i leihau fy nghyfraniadau?

Dewis arall, yn lle optio allan, neu ar adegau pan fo arian yn brin, yw aros yn y Cynllun a thalu llai o gyfraniadau.

Gelwir hyn yn “opsiwn 50/50" a gallwch ddewis gwneud hyn ar unrhyw adeg.

Wrth ddewis yr opsiwn 50/50, byddwch yn talu hanner y cyfraniadau y byddech yn eu talu fel arfer. Ond, byddwch yn cronni hanner y pensiwn yn unig yn ystod y cyfnod yr ydych yn talu’r cyfraniadau 50/50 gostyngol.

Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen "50/50" yn yr adran Talu i Mewn.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni