Yn sgil newidiadau i drefniadau llywodraethu cynlluniau pensiwn yn y sector cyhoeddus, mae gofyn i Cyngor Sir Powys, fel awdurdod gweinyddu ar gyfer y CPLlL, sicrhau bod bwrdd pensiynau lleol yn ei le. Rôl y bwrdd yw cynorthwyo Cronfa Bensiwn Powys i gydymffurfio â’r holl ofynion deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael ei lywodraethu a’i reoli’n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae aelodau’r Bwrdd Pensiynau yn gweithio gyda’r Cyngor yn ei rôl fel awdurdod gweinyddu a gyda swyddogion y gronfa bensiwn, er mwyn sicrhau bod eich cynllun pensiwn yn cael ei redeg yn iawn a’ch bod chi fel aelod yn cael y gwasanaeth gorau.

Rhaid i aelodau’r bwrdd pensiynau lleol gydymffurfio â gofynion a gyflwynir gan reoliadau a orfodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau, ac felly mae gofyn iddynt gynnal eu gwybodaeth am y CPLlL a phensiynau yn gyffredinol, a’u dealltwriaeth ohonynt. Er mwyn gwneud hyn, cânt hyfforddiant priodol.

Ar y bwrdd, rhaid cael nifer cyfartal o gynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau’r cynllun. Yn ogystal, rydym hefyd wedi penodi cadeirydd annibynnol i oruchwylio’r bwrdd i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llyfn.

Penodir cynrychiolwyr aelodau’r cynllun a chynrychiolwyr cyflogwyr i’r bwrdd am gyfnod o 4 blynedd

 

Gellir gweld rhestr o Aelodau presennol y Bwrdd, yn ogystal ag agendâu a chofnodion Cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn, yn y fan yma.

Cliciwch yma i weld dolenni at nifer o wefannau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Dolenni defnyddiol