Llai na 2 flynedd (ac nid ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn i mewn i’r Cynllun o rywle arall)

Wedi i chi adael, mae gennych yr opsiynau canlynol:

  • Gallwch ofyn am eich cyfraniadau yn ôl

  • Efallai y gallwch drosglwyddo eich buddion at trefniant pensiwn newydd

  • Gallwch ohirio eich penderfyniad hyd nes eich bod yn gwybod beth hoffech ei wneud – gelwir hyn yn rhewi ad-daliad. Mae gennych uchafswm o 5 mlynedd ar ôl i chi adael i ddod i benderfyniad.

2 flynedd neu fwy (neu rydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn i mewn i’r Cynllun o gynllun pensiwn arall)

Wrth i chi adael, mae gennych ddau ddewis:

  • Gallwch ddewis cadw’ch pensiwn yn y Cynllun – gelwir hyn yn bensiwn gohiriedig. Mae pensiynau Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gallu mynd i lawr ac i fyny, ac mae hyn yn wir i aelodau actif ac aelodau gohiriedig. Mae eich pensiwn o’r Cynllun yn codi bob blwyddyn, yn unol â chostau byw a fesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Unwaith y byddant yn cael eu talu, ni allant leihau, ac felly yn achos prin datchwyddiant ni fyddai eich pensiwn yn newid.

    Efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo eich pensiwn at drefniant pensiwn newydd, er, mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd arnoch angen cael cyngor ariannol annibynnol, diduedd, cyn i chi allu gwneud hynny.

Ad-daliadau

Rhaid bod gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth â’r Cynllun, a rhaid eich bod heb drosglwyddo buddion i mewn o gynllun pensiwn arall, cyn i chi allu gofyn am eich cyfraniadau yn ôl.

Gellir ad-dalu eich cyfraniadau chi eich hun yn unig, ac nid y cyfraniadau a dalwyd gan eich cyflogwr. Tynnir swm allan ar gyfer y rhyddhad treth a hefyd, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.

Porwch drwy’r adrannau isod hefyd, sydd â rhagor o wybodaeth, er mwyn cael gwybod mwy am adael y CPLlL a’r camau nesaf y dylech eu cymryd os ydych yn dymuno trosglwyddo eich buddion. Os ydych yn dymuno cadw rhywfaint o arian i mewn yn y Cynllun, cewch hyd i wybodaeth am eich buddion gohiriedig hefyd. 

Methu â dod o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni