Os nad ydych yn talu i mewn i’r Cynllun Pensiwn mwyach, yna efallai y byddwch yn dymuno gadael eich buddion yn y cynllun hyd nes i chi ymddeol (buddion gohiriedig) neu drosglwyddo eich buddion at drefniant pensiwn arall. Efallai yr hoffech gael cyngor ariannol annibynnol cyn i chi benderfynu gwneud hynny, gan bod y penderfyniad yn un mor bwysig.

Am ragor o wybodaeth am gymryd eich buddion, cewch yr atebion i nifer o gwestiynau cyffredin yma.

Cwestiynau cyffredin

Pryd y caf i gymryd fy muddion?

Mae eich Oedran Pensiwn Arferol yn gysylltiedig â’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (a’r oed ieuengaf yw 65). Eich Oedran Pensiwn Arferol yw’r oed ieuengaf y gallwch ymddeol a chael eich pensiwn yn llawn.

Gallwch ddarganfod beth yw eich Oedran Pensiwn Arferol trwy edrych am eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar www.gov.uk/calculate-state-pension

Gallwch hefyd gymryd eich buddion cyn eich Oedran Pensiwn Arferol neu ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol.

Mae hefyd yn bosibl i chi gymryd eich buddion gohiriedig ar unrhyw adeg, ar sail afiechyd. Ond rhaid i hyn gael ei gymeradwyo gan eich cyn-gyflogwr, ac ni chewch unrhyw ychwanegiadau.

Cyn penderfynu a fydd yn cytuno i’ch cais, rhaid i’ch cyn-gyflogwr gael tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol sydd â chymhwyster mewn meddygaeth iechyd galwedigaethol yn nodi eich bod, yn eu barn nhw, yn methu â chyflawni dyletswyddau eich swydd bresennol yn effeithlon, a hynny’n barhaol, oherwydd afiechyd, neu wendid meddyliol neu gorfforol ac, os felly, fod y cyflwr yn debygol o’ch atal rhag cael swydd gyflogedig (boed hynny mewn llywodraeth leol neu fel arall) cyn i chi gyrraedd eich oed ymddeol arferol, neu am o leiaf dair blynedd, pa un bynnag sydd gynharaf.

Os ydych yn credu y gallech gael buddion gohiriedig ar sail afiechyd, cysylltwch â’ch cyn-cyflogwr.

A ydw i’n gallu cael fy nghyfaniadau yn ôl?

Os oes gennych lai na 2 flynedd o aelodaeth o’r Cynllun ac nid ydych wedi trosglwyddo hawliau pensiwn o gynllun pensiwn arall, gallwch gyflwyno cais i ofyn am eich cyfraniadau yn ôl.

Dim ond eich cyfraniadau chi’ch hun y gellir eu had-dalu, ac nid y rheiny a delir gan eich cyflogwr. Tynnir swm allan o’ch cyfrif i wneud iawn am rhyddhad treth, ac, os yn berthnasol, Yswiriant Gwladol.

A ydw i’n gallu trosglwyddo fy muddion?

Efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo eich buddion at gynllun pensiwn arall, tra bod y cynllun newydd yn un a gymeradwyir gan CThEF ac mae’n barod i dderbyn y trosglwyddiad.

  • Os ydych am drosglwyddo eich buddion, dylech ddweud wrth eich cynllun newydd fod gennych fuddion yn y CPLlL.
  • Byddant yn dod atom i ofyn am werth trosglwyddo ac yn dweud wrthych beth yw gwerth y buddion yn eu cynllun nhw.
  • Yna, bydd eich cyflogwr neu gynllun pensiwn newydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i benderfynu a ydych yn dymuno bwrw ymlaen â’r trosglwyddiad ai peidio.
  • Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau bwrw ymlaen â’r trosglwyddiad, byddant yn gofyn i ni dalu’r taliad trosglwyddo draw i’ch cynllun pensiwn newydd.

Mae penderfynu trosglwyddo eich buddion yn benderfyniad pwysig. Efallai yr hoffech gael cyngor ariannol annibynnol.

Gofalwch rhag cael eich twyllo

Os ydych yn penderfynu trosglwyddo eich buddion, dylech fod yn ymwybodol o sgamiau posibl yn ymwneud â phensiynau. Mae addysgu eich hun a pharhau i fod ar eich gwyliadwriaeth yn allweddol er mwyn lleihau unrhyw risgiau gan sgamiau yn ymwneud â’ch pensiwn.

Isod ceir crynodeb o bedwar cam allweddol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol er mwyn diogelu eich pensiwn:

Cam 1 – Gwrthodwch unrhyw gynigion annisgwyl

Yn aml, mae’r rheiny sy’n ceisio eich twyllo yn gysylltiadau nad ydych yn eu hadnabod a byddant yn ceisio ennill eich ymddiriedaeth trwy wneud honiadau ffug. Mae’n debygol y byddant yn honni eu bod wedi eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac yn cyflwyno cyfleoedd buddsoddi deniadol i chi, er na fyddwch wedi gofyn amdanynt, a hynny mewn ymgais i gael rheolaeth dros eich pot pensiwn. Mewn amgylchiadau eraill, efallai y caiff yr arian ei ddwyn yn syth oddi arnoch. Os yw cynnig yn swnio’n rhy dda i’w gredu, yna mae’n debygol na ddylech ei gredu.

Cam 2 – Gwiriwch i weld pwy yr ydych yn trafod â nhw

Cofiwch nad yw’n bosibl cymryd eich pensiwn cyn cyrraedd 55 oed fel arfer, ac eithrio mewn achosion o afiechyd neu lle mae gennych oedran ymddeol wedi’i amddiffyn sy’n iau na 55. Yn yr un modd, dylech fod yn ochelgar ynghylch cynigion i adolygu eich pensiwn yn “rhad ac am ddim”, i gynnig enillion “wedi eu gwarantu” ar fuddsoddiadau pensiwn, neu gynlluniau buddsoddiad hirdymor, cymhleth. Ni fyddai cynghorwyr sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cynnig gwasanaethau na chyfleoedd o’r fath.  Os ydych y poeni y gallai cynllun fod yn sgam, dylech ddweud wrth Action Fraud neu’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol am eich amheuon.

Cam 3 – Peidiwch â gadael i unrhyw un eich rhuthro na rhoi pwysau arnoch

Mae tactegau gwerthu sy’n rhoi pwysau mawr arnoch yn arwydd cyffredin o sgam yn ymwneud â phensiwn. Dylech fod yn ochelgar ynghylch cynigion sydd â chyfyngiad amser arnynt er mwyn “cael y ddêl orau””. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth pan fydd yna addewidion o enillion sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir a pheidiwch â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch i wneud penderfyniad.

Cam 4 – Mynnwch wybodaeth neu gyngor diduedd

Os ydych y penderfynu trosglwyddo eich buddion, yn gyntaf ystyriwch ymgynghori â gwasanaeth o’r enw Pensions Advisory Service neu gynghorydd sy’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Dylai’r rheiny sydd dros 50 ac sydd â phensiwn cyfraniadau diffiniedig, ystyried trefnu apwyntiad gyda Pension Wise.

A gaf i gymryd fy muddion yn gynnar?

Cewch gymryd eich buddion cyn eich Oedran Pensiwn Arferol ond, mewn rhai achosion, efallai y bydd arnoch angen caniatâd eich cyflogwr ac efallai y cewch lai o fuddion.

Ymddeol yn gynnar ar eich cais chi

Cewch gymryd eich buddion wedi i chi gyrraedd 55 oed. Efallai y cewch ostyngiad ar eich buddion i adlewyrchu’r ffaith eu bod yn cael eu talu’n gynharach. Gall eich cyflogwr benderfynu a ydyw’n dymuno ildio’r hawl i rai o’r gostyngiadau hyn ai peidio. Bydd arnoch angen cysylltu â’ch cyflogwr i ddarganfod beth yw ei bolisi.

Os ydych yn dewis cymryd eich buddion cyn eich Oedran Pensiwn Arferol, yna efallai y cewch lai o fuddion am eu bod yn cael eu talu’n gynharach ac am gyfnod hirach na phetaech chi wedi aros.

Mae’r lleihad yn eich buddion yn dibynnu faint o flaen eich Oedran Pensiwn Arferol y byddwch yn cymryd eich buddion.

Enghraifft

Mae Stan yn 64 ac yn penderfynu ymddeol a chymryd ei fuddion. Ei Oedran Pensiwn Arferol yw 65.

Dyma ei fuddion:

Pensiwn = £4,000 y flwyddyn

Cyfandaliad = £11,500

Gan ei fod yn ymddeol 1 flwyddyn yn gynharach, bydd yn cael llai o fuddion.

Dyma fydd y buddion y bydd yn eu cael:

Pensiwn = £3,796 y flwyddyn (lleihad o 5.1%)

Cyfandaliad = £11,235.50 (lleihad o 2.3%)

A gaf i gymryd fy muddion yn hwyrach?

Gallwch ddewis cymryd eich buddion gohiriedig ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol, ond rhaid i chi eu cymryd cyn i chi droi’n 75 oed.

Os ydych yn cymryd eich buddion ar ôl eich Oedran Pensiwn Arferol, cewch fwy o fuddion am eu bod yn dechrau yn hwyrach na’r disgwyl.

A gaf i gymryd cyfandaliad?

Wrth i chi ymddeol, gallwch gymryd rhan o’ch buddion fel cyfandaliad, ac fel arfer mae’n ddi-dreth.

Os oeddech yn aelod o’r Cynllun cyn 1 Ebrill 2008 cewch gyfandaliad yn awtomatig gogyfer â’r aelodaeth honno. Gallwch hefyd benderfynu ildio rhywfaint o’ch pensiwn am gyfandaliad ychwanegol.

Os ydych wedi ymuno neu wedi bod yn aelod ar ôl 1 Ebrill 2008, nid yw’r Cynllun yn rhoi cyfandaliad awtomatig mwyach ar gyfer y rhan hon o’ch aelodaeth, ond gallwch ildio rhywfaint o’ch pensiwn er mwyn cael cyfandaliad.

Os ydych yn dymuno cymryd cyfandaliad, neu gynyddu maint eich cyfandaliad, rhaid i chi ildio £1 o’ch pensiwn am bob £12 ychwanegol.

Rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn dymuno ildio rhywfaint o’ch pensiwn i gael y cyfandaliad, cyn y telir eich buddion.

Enghraifft

Mae Jane yn ymddeol ac mae wedi cronni’r buddion canlynol:

Pensiwn = £6,667 y flwyddyn

Os ydy Jane yn dymuno cymryd cyfandaliad o £20,000 yna bydd angen iddi ildio £1,667 o’i phensiwn.

Cyfandaliad ÷ 12 = swm y pensiwn y bydd gofyn i chi ei ildio.

Dyma fydd ei buddion:

Pensiwn = £5,000 y flwyddyn

Cyfandaliad = £20,004

A fydd fy mhensiwn yn cynyddu?

Adolygir eich buddion gohiriedig bob blwyddyn a chânt eu halinio at gostau byw, hyd nes iddynt ddechrau cael eu talu.

Unwaith y bydd yn dechrau cael ei dalu, bydd eich pensiwn yn parhau i gael ei alinio â chostau byw a byddwn hefyd yn cysylltu â chi bob mis Ebrill gyda manylion unrhyw newidiadau.

Sut y bydd fy ysgariad yn effeithio ar fy muddion?

Bydd gofyn i chi a’ch partner ystyried sut i drin eich pensiwn fel rhan o unrhyw setliad ysgariad/diddymu.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Yswiriant bywyd

Fel aelod o’r Cynllun, mae gennych yswiriant bywyd gwerthfawr, sef cyfandaliad a delir adeg eich marwolaeth.

Os ydych wedi enwebu eich gŵr, gwraig neu bartner sifil i dderbyn y cyfandaliad hwn, efallai y byddwch yn dymuno llenwi ffurflen enwebu buddiolwr newydd ar gyfer taliad marwolaeth (gweler yr adran 'Adnoddau’) i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni