Cyfandaliad grant marwolaeth

Os digwydd i chi farw cyn i chi gymryd eich buddion gohiriedig, efallai y bydd hawl gan eich perthynas agosaf i’r cyfandaliad grant marwolaeth.

  • Os oeddech wedi gadael cyn 1 Ebrill 2008, telir cyfandaliad sydd 3 gwaith eich pensiwn gohiriedig.

  • Os oeddech wedi gadael ar 1 Ebrill 2008, neu ar ôl y dyddiad yma, telir cyfandaliad sydd 5 gwaith eich pensiwn gohiriedig.

Gallwch ddweud wrthym i bwy yr hoffech i ni dalu’r cyfandaliad grant marwolaeth trwy ddefnyddio’r ffurflen Mynegi Dymuniad yn yr adran ‘Adnoddau’.

Ni sy’n penderfynu’n derfynol pwy i dalu’r cyfandaliad iddynt. Cyn i ni ddod i unrhyw benderfyniad, byddwn yn ystyried unrhyw ddymuniadau yr ydych wedi eu mynegi, ond ni fyddwn yn rhwym wrthynt.

Pensiwn i oroeswyr

Os digwydd i chi farw cyn cymryd eich buddion gohiriedig, byddwn yn talu pensiwn i’ch gŵr/gwraig neu’ch partner sifil neu eich partner sy’n cydfyw â chi a’ch plant dibynnol.

Os hoffech i ni dalu buddion i bartner sy’n cydfyw â chi, bydd gofyn iddynt fodloni meini prawf penodol.

Mae pensiynau plant yn daladwy i unrhyw blant dibynnol cymwys sydd gennych adeg eich marwolaeth.

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth.

Cyfrifo swm y pensiwn i oroeswyr

Ar gyfer eich gŵr neu wraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi:

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.

Nodwch

Dim ond eich aelodaeth o 6 Ebrill 1988 a ddefnyddir ar gyfer partneriaid sy’n cydfyw, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau buddion ychwanegol i oroeswyr er mwyn ymestyn y ddarpariaeth hon i gynnwys cyfnodau cynharach o aelodaeth gyda’r Cynllun.

 

Ar gyfer eich plant dibynnol

Nodwch, os oes mwy nag un plentyn dibynnol, y byddant yn rhannu’r pensiwn yn gyfartal.

Pensiwn i un plentyn, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/320 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.

Pensiwn i un plentyn, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/240 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael. 

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, pan fydd pensiwn hefyd yn cael ei dalu i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi

1/160 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.

Pensiwn i ddau blentyn neu fwy, lle na thelir pensiwn i’ch gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cydfyw â chi a enwebwyd

1/120 o’ch cyflog pensiynadwy wedi’i luosi gyda chyfanswm yr aelodaeth a gronnwyd erbyn i chi adael.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni