Pensiynau ar gyfer cynghorwyr
O 1 Ebrill 2014, nid yw aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gael bellach lle y caiff ei chynnig o dan gynllun lwfansau cyngor yn Lloegr. Fodd bynnag, mae dal i fod yn agored i gynghorwyr a meiri etholedig sydd o dan 75 oed mewn cynghorau sir neu fwrdeistrefi sirol yng Nghymru.
Gall aelodau cynghorau yn Lloegr sy’n aelodau ar 31 Mawrth 2014 gadw’u haelodaeth ond tan ddiwedd tymor y swydd y mae’r aelodau yn ei wasanaethu ar 1 Ebrill 2014 a hynny’n unig, neu, wrth gwrs, os byddant yn camu i lawr neu’n dewis optio allan o’r Cynllun.
LLOEGR YN UNIG
Nid yw'r cynllun ar gael i gynghorwyr nad oeddent yn aelodau ar 31 Mawrth 2014. Gall cynghorwyr a oedd yn aelodau ar y diwrnod hwn aros yn aelodau yn ystod eich tymor presennol yn y swydd (y tymor sy'n cynnwys 31 Mawrth 2014) neu i 75 oed os yw hynny'n gynharach
I aelodau presennol:
Mae'r CPLlL ar gyfer cynghorwyr yn gynllun a ddiffinnir ar gyfartaledd gyrfa ac mae'n cael ei warantu gan y gyfraith. Mae cyfrifo'ch pensiwn terfynol yn seiliedig ar yr amser y buoch yn aelod o'r cynllun a'ch cyflog, ar gyfartaledd, yn ystod eich cyfnod aelodaeth fel cynghorydd.
Bydd eich hawl i dderbyn pensiwn yn dibynnu ar eich oedran. Gellir cymryd y pensiwn yn llawn ar unrhyw adeg o oedran pensiwn arferol, ond rhaid ei gymryd cyn cyrraedd 75 oed.
I GYNGHORWYR YNG NGHYMRU YN UNIG
Mae'r CPLlL ar gyfer cynghorwyr yn gynllun a ddiffinnir ar gyfartaledd gyrfa ac mae'n cael ei warantu gan y gyfraith. Mae cyfrifo'ch pensiwn terfynol yn seiliedig ar yr amser y buoch yn aelod o'r cynllun a'ch cyflog, a'r gyfartaledd, yn ystod eich cyfnod aelodaeth fel cynghorydd. Bydd eich hawl i dderbyn pensiwn yn dibynnu ar eich oedran. Gellir cymryd y pensiwn yn llawn ar unrhyw adeg o oedran pensiwn arferol, ond rhaid ei gymryd cyn cyrraedd 75 oed.
Sut ydw i’n ymuno, a faint fydd hyn yn ei gostio?
Mae aelodaeth yn opsiynol ac nid yw’n awtomatig. Os hoffech chi ymuno a fyddech cystal â llenwi a dychwelyd ffurflen ymaelodi. Unwaith y derbynnir eich ffurflen, caiff ei phrosesu gan y tîm pensiynau fydd yn rhoi gwybod yn ffurfiol i chi.
Mae eich cyfraniadau yn 6% o’ch lwfansau fel cynghorydd. Os ydych chi’n talu treth, fe gewch gostyngiad yn y dreth ar eich cyfraniadau.
Gellir cael hyd i wybodaeth bellach yn y canllaw canlynol:
Canllaw CPLlL i Gynghorwyr Cymwys (gweler y Dogfennau Perthnasol yn yr adran Gwybodaeth Ddefnyddiol)