Deall pensiynau
Cymryd yr awenau a dod yn fwy hyderus â'ch pensiwn.
Bydd deall sut mae'ch pensiwn yn gweithio'n golygu y byddwch chi'n barod i wneud penderfyniadau pwysig a allai eich helpu chi a'ch teulu pan fyddwch chi'n ymddeol.
Mae yna ambell air i gall a fydd yn eich helpu i feithrin eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch hyder. Gallwch chi ddechrau drwy:
- ddarllen yn ofalus y wybodaeth (datganiadau, cylchlythyrau a llyfrynnau) rydym yn ei hanfon atoch chi
- meddwl am sut rydych chi eisiau byw pan fyddwch chi wedi ymddeol, a
- meddwl am y math o ddarpariaethau rydych chi eisiau eu gwneud ar gyfer eich teulu