Cwestiynau Cyffredin i Bensiynwyr CPLlL

A fydd fy mhensiwn yn cynyddu?

Mae pensiynau Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio yn gallu gostwng yn ogystal â chynyddu, ac mae hyn yn berthnasol i aelodau actif ac aelodau sydd wedi gohirio’u pensiwn. Mae eich pensiwn o’r Cynllun yn codi bob blwyddyn yn unol â chostau byw, a mesurir hyn yn ôl y Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Unwaith y maent wedi dechrau cael eu talu, ni allant leihau, ac felly yn yr achos prin o ddatchwyddiant, ni fyddai newid i’ch pensiwn.

Gosodir y gyfradd cynnydd pensiwn bob blwyddyn ym mis Ebrill (ar gyfer mis Ebrill 2022 mae’r gyfradd yn 3.1%). Os ydych wedi ymddeol ers llai na 12 mis, cewch gynnydd cyfraneddol. Byddwn yn cysylltu â chi bob mis Ebrill gyda manylion y cynnydd i’ch pensiwn.

Beth os ydw i’n cael ysgariad?

Bydd gofyn i chi a’ch partner ystyried sut i drin eich pensiwn fel rhan o unrhyw setliad ysgariad/diddymu.

Yswiriant bywyd

Fel aelod o’r Cynllun, mae gennych yswiriant bywyd gwerthfawr, a allai fod yn daladwy adeg eich marwolaeth.

Os ydych wedi mynegi dymuniad i’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil dderbyn yr yswiriant hwn, efallai y byddwch yn dymuno llenwi ffurflen Mynegi Dymuniad newydd (gweler yr adran 'Adnoddau’) i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Beth os ydw i’n symud dramor i fyw?

Gallwn barhau i dalu’ch pensiwn i mewn i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig. Efallai y gallwn wneud taliad trwy Wasanaeth Talu Rhyngwladol ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi fisol fach am hyn. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd, ond nid pob gwlad, a chofiwch fod y pensiwn a delir i chi bob mis yn dibynnu ar y gyfradd gyfnewid adeg pob taliad.

Os hoffech i’ch pensiwn gael ei dalu i mewn i gyfrif banc tramor, cysylltwch â ni am ffurflen.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n newid fy nghyfeiriad?

Os ydych yn newid eich cyfeiriad, ysgrifennwch atom i ddweud wrthym eich bod wedi newid eich manylion.

Nodwch, ni allwn dderbyn unrhyw newidiadau dros y ffôn nac mewn neges e-bost.

Beth sy’n digwydd os yw manylion fy nghyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid?

Os yw eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn newid, rhaid i chi ddweud wrthym trwy lenwi’r ffurflen newid manylion banc, sydd ar gael yn yr adran adnoddau

Beth sy’n digwydd os oes gen i gwestiwn am faint o dreth incwm yr wyf yn ei thalu?

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) sy’n cyfrifo faint o dreth incwm ddylech chi fod yn ei thalu ac mae’n rhoi’r cod treth i ni er mwyn i ni ei osod yn erbyn eich pensiwn. Bydd gofyn i chi siarad â CThEF yn uniongyrchol. Gallwch gysylltu â CThEF drwy ffonio 0300 200 3300 (neu 0300 200 3319 ar gyfer ffôn testun) neu +44135 535 9022 os ydych y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Bydd arnoch angen eich rhif Yswiriant Gwladol (gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn ar eich P60).

Beth sy’n digwydd os ydw i’n marw?

Yn yr adran am farw yn ystod ymddeoliad, ceir manylion yr hyn y dylai’r sawl sy’n gofalu am eich materion ei wneud wedi i chi farw, a’r buddion pellach a allai fod yn daladwy o’r Cynllun.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n dychwelyd i’r gwaith?

Efallai y bydd angen i chi gysylltu â ni os ydych yn mynd yn ôl i weithio ym maes Llywodraeth Leol neu i gyflogwr lle y gallech ddod yn aelod o’r CPLlL.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd cyflogaeth bellach yn cael unrhyw effaith ar eich pensiwn. Ond, rhaid i chi ddweud wrthym os ydych yn cael swydd arall.

Methu â dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn? Mae ein tîm wrth law ar bob adeg.

Cysylltwch â ni